partners
Newyddion diweddaraf
 Dysgu am fwyd a ffermio mewn cefn gwlad sy’n fyw
  
Hafan
Croeso

Croeso i safle Cymraeg gwefan FACE.

 
Newydd ar wefan FACE

Mae disgyblion Ysgol Gynradd y Coed-Duon yn Ne Cymru wedi bod â Chwmni Cydweithredol Bwyd ers 2006. Maent yn dysgu am ffrwythau a llysiau yn ogystal â datblygu sgiliau busnes gwerthfawr. Am ddarllen mwy...

Y Ras Fwyd - Adnodd amigyfrwng yw Y Ras Fwyd. Fe'i paratowyd gan Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales i helpu athrawon cynradd i wneud gwaith ar fwyd, meath a bwyta'n iach yn CA2.

 
Meddwl Am Fwyd a Ffermio

Meddwl Am Fwyd a FfermioMae Meddwl am Fwyd a Ffermio yn hybu bywyd iach mewn ysgolion yng Nghymru trwy gynnig profiad uniongyrchol o chefn gwlad, ffermio a bwyd, a hynny trwy weithgareddau tyfu a choginio ac ymweliadau â ffermydd.

Os am wybod mwy, ewch i www.thinkfoodandfarming.org.uk.

 
Hylendid ar Ffermydd Agored
hoofMae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yng Nghymru wedi cynhyrchu pecyn ar gyfer athrawon o'r enw Hylendid ar Ffermydd Agored (HAFfA).
Mae'n cynnwys adnoddau am olchi dwylo ac osgoi heintiadau.

Cliciwch yma i weld yr adnodd

 
Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd

Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd DVDMae bwyta’n iach a chynaliadwyedd yn wersi hollbwysig i blant, a thrwy edrych ar y gadwyn fwyd mae modd cyfuno’r ddau’n effeithiol. Y mae DVD 7-munud newydd yn awr ar gael ar gyfer athrawon, sy’n dangos plant yn ymweld â ffermydd, garddio yn yr ysgol, coginio, ymweld â marchnad y ffermwyr a mwynhau pryd o fwyd lleol yn yr ysgol. Mae’r gweinidog addysg Jane Hutt AC yn ymddangos arno, yn siarad yng nghynhadledd diweddar Blas am Oes.

Gellir gwylio’r DVD yn fan hyn, neu archebu copi gan Jane Powell ar 01970 622248. Gellwch hefyd lawrlwytho taflen wybodaeth i gydfynd â’r DVD.

 
Dewch o hyd i fferm

Dewch o hyd i ffermGall FACE eich helpu i ddod o hyd i fferm sy’n derbyn ymweliadau gan ysgolion yng Nghymru. Mae gennym fas data gyda dros 70 fferm ar draws Cymru, a gall Prosiect PABA a Dysgwch ar y Fferm hefyd eich helpu os yw eich ysgol ym Mhowys neu Orllewin Cymru.

Am ddarllen mwy

 
Look Windwards!

Image Look Windwards! Dyma adnodd newydd sbon a gynhyrchwyd ar y cyd gyda ‘Windward Bananas’ ar gyfer athrawon Daearyddiaeth, ac a lansiwyd yng Nghynhadledd y Gymdeithas Ddaearyddol (Geographical Association Conference) 2006. Mae’r adnodd yn canolbwyntio ar yr Ynysoedd Windward fel man ‘byd eang’ ac mae’n edrych ar nifer o bynciau gan gynnwys Masnach Deg, Tyfu bananas a Thwristiaeth.
Cynhyrchwyd gan athrawon ar gyfer athrawon.

Cliciwch yma i weld yr adnodd

 
Proffiliau Ffermydd
Farm Profiles Mae’r holl broffiliau fferm yn cyflwyno disgrifiadau manwl o wahanol fathau o ffermydd a busnesau garddwriaeth ar draws y wlad.

Ceir hefyd gwybodaeth am nifer o ffermydd dramor.

Cliciwch yma i agor yr adran Proffiliau Ffermydd.
 
Marchnadoedd ffermwyr ysgolion

cafe_logoMae’r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn ym Mhowys.

Am ddarllen mwy…

 

 
Taflenni Ffeithiau

Darganfod: Mae’r tudalennau yma yn cyflwyno gwybodaeth ffeithiol ar ystod eang o bynciau er engrhaifft Cnydau Grawn, Ffermio Organig a Siwgwr Betys.

Ymchwilio: Mae’r tudalennau yma’n gymorth i fyfyrwyr i ymchwilio am bynciau fel Milltiroedd Bwyd, Newidiadau Geneteg a Cnydau nad ydynt yn fwyd?

Materion Byd Eang:
Yr ydym yn ddiolchgar i Farmers’ World Network (Rhwydwaith Byd Amaethwyr) sydd wedi sicrhau bod eu deunydd ar wahanol agweddau o ddatblygiad byd eang ar gael i ni i’w defnyddio.

 
Gwyddoniaeth mewn Amaethyddiaeth
Science in Agriculture

Adnoddau sy’n cyfleu y defnydd ymarferol o wyddoniaeth mewn gwahanol feysydd o amaethyddiaeth.

Wedi ei ddyfeisio/ddarparu i hyrwyddo y TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol newydd

Cliciwch yma i gyrraedd adnodd Gwyddoniaeth Gymhwysol.

 
Daearyddiaeth
Image

Yn yr adran yma gweler adnoddau wedi eu darparu gan FACE au partneriaid sy’n asiantaethau.

Arddangos dogfennau ar gyfer gwaith maes Daearyddiaeth CA3 sy’n addas ar gyfer y pwnc Defnyddio eich Ardal Leol”.

Cliciwch yma i weld yr adnoddau.

 
Byw’n Iach
Healthy Living

Mae adran newydd wedi ei chreu o’r enw Byw’n Iach sy’n cynnwys yr holl adnoddau ar wefan FACE sy’n berthnasol i’r pwnc yma.

Mae’n cynwys testun o’r llyfryn newydd, “Getting to Grips with Healthy Living” [“Ymafael a Byw’n Iach”] i’ch arwain at adnoddau eraill sydd wedi eu cynhyrchu gan FACE au partneriaid.

Cliciwch yma i weld yr adran newydd Byw’n Iach ar wefan FACE.

 
Y Pedwar Tymor / O’r Cae i’r Oergell

fourseasonsMae’r casgliad cyntaf o luniau yn arddangos y Pedwar Tymor. Darganfyddwch beth sy’n digwydd ar y fferm ac yn y wlad yn ystod unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Mae’r ail gasgliad, o’r enw O’r Cae I’r Oergell, yn dangos trwy luniau sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu.
Dewisiwch rhwng llaeth, bacwn, tatws, grawn a llysiau.

Cliciwch isod i weld yr adnoddau.


Y Pedwar Tymor.

O’r Cae i’r Oergell.

Yr atodiadau diweddaraf i wefan FACE
yw: